Clwb Garddio er Mwyn Lles
Elfennau Gwyllt

Bob dydd Mawrth 10yb-12.30yp a 1yp-3yp
Ymlacio, cysylltu â natur a bywyd gwyllt, cwrdd â phobl, ennill profiad gwaith, rhoi cynnig ar waith saer a/neu ymwybyddiaeth ofalgar, dysgu sut i dyfu a choginio ffrwythau a llysiau ffres, gwella cynefin bywyd gwyllt neu adeiladu sied!
Mae croeso i bob oedran — gwlâu plannu uchel a hygyrch a gweithgareddau ysgafn ar gael, yn ogystal â thasgau cadwraethol a garddwriaethol ymarferol
Gweithgareddau enghreifftiol:
Gwaith saer, garddwriaeth, profiadau cysylltu â natur, chwynnu, cadwraeth, gweithgareddau er mwyn lles, adeiladu siediau, crefftau naturiol, creu ardal ddysgu i blant, cynnal a chadw gardd, tocio, egino, coginio, defnyddio offer a sgwrsio!
Gofynion: Dillad ac esgidiau call – dim fflip fflops nac esgidiau traed agored, diolch. Gellir benthyg dillad amddiffynnol personol (PPE) ar y safle
Cymwysterau a chyfleoedd gwirfoddoli ar gael os yn ofynnol
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch drwy: info@wildelements.org.uk | 07799 566533
Manylion
- Dyddiad: 21st Medi 2021 
- Amser: 10:00am - 3:00pm
- Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru
- Ffôn: 07799566533