Cydnabod gwytnwch, adeiladu gobaith
FDA Learn

Fel rhan o’r ymrwymiad parhaus i Wythnos Dysgwyr Oedolion yng Nghymru, mae’n bleser gan yr FDA gyhoeddi gweminar gan hyfforddwr rheolaidd yr FDA, Phil Denning, ar gydnabod a datblygu eich gwytnwch. Yn y sefyllfa bresennol, mae’n hanfodol gallu bod yn gydnerth mewn cyfnod o straen a her i’n harferion beunyddiol. Bydd y weminar ragarweiniol ‘Cydnabod gwytnwch, adeiladu Gobaith’ yn galluogi cyfranogwyr i ddod yn fwy hyderus ynghylch cydnabod a datblygu eu gwytnwch. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cyfnod o straen. Phil Denning fydd yn cyflwyno’r sesiwn. Mae Phil yn Weision Sifil wedi ymddeol ac roedd yn aelod o Weithrediaeth Genedlaethol yr FDA am sawl blwyddyn. Mae’n hyfforddwr ac addysgwr profiadol yn ôl proffesiwn ac mae’n cyflwyno hyfforddiant yn rheolaidd i’r FDA, STUC, WTUC a TUC
Manylion
- Dyddiad: 23rd Medi 2021 
- Amser: 2:00pm - 3:00pm