Deall Cam-drin Domestig gan gynnwys Rheoli ac Ymddygiad Gorfodol
Hafan Cymru, Gwasanaethau Hyfforddi

Gyda’r pwnc hwn yn dod yn fwy cyffredin yn y newyddion, nod yr hyfforddiant hwn yw codi ymwybyddiaeth o’r arwyddion a’r gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r cwrs hwn ar gael i bawb ac fe’i cynlluniwyd i ddarparu dealltwriaeth o gam-drin domestig a rheoli ac ymddygiad gorfodol. Byddwn yn ystyried sut mae credoau’r tramgwyddwr yn gyrru eu hymddygiad ac yn mynd i’r afael â beth yw effaith ymddygiad rheoli a gorfodaeth ar ddioddefwyr a’u teuluoedd. Erbyn diwedd y cwrs, dylai’r cyfranogwyr deimlo’n fwy hyderus ynglŷn â sut i roi cefnogaeth ymarferol i unigolion yr effeithir arnynt a gwybod ble i gyfeirio atynt am gefnogaeth arbenigol.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i gyflawni’r canlyniadau dysgu ar gyfer dysgwyr Grŵp 4 fel y nodir yn y fframwaith hyfforddi cenedlaethol canllawiau statudol o dan adran 15 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ac adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Manylion
- Dyddiad: 3rd Tachwedd 2021 
- Amser: 9:15am - 4:30pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01267225569