Pwysigrwydd Cysylltiadau Unigol mewn amgylchedd chwaraeon
FAW Trust

Mae Ymddiriedolaeth CBDC a thîm Addysgu Hyfforddwyr CBDC yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Wythnos Dysgu Oedolion i ddarparu gweithdy addysg i gefnogi gwirfoddolwyr sydd eisiau bod yn rhan o’n teulu pêl droed yng Nghymru a gwirfoddoli o fewn chwaraeon ledled Cymru.
Bydd y gweithdy’n edrych ar nifer o ffyrdd y gallwn ‘greu cysylltiadau’ yn ein byd pêl droed, gan edrych ar y swyddogaethau gwirfoddoli niferus sydd ar gael o fewn amgylchedd clwb, gan gynnwys hyfforddi chwaraewyr ar bob lefel o’n gêm i’r swyddogaethau niferus penodol i glwb sy’n helpu i weithredu’r gêm ddomestig.
Bydd y gweithdy’n cynnwys cyfle i drafod heriau ac atebion cyffredin gydag unigolion o’r un anian ynghylch pwysigrwydd cysylltiadau unigol i alluogi i chwaraewyr ac eraill sy’n ymwneud â’n gêm genedlaethol syrthio mewn cariad â’r gêm a chreu cyfle dysgu gydol oes.
Bydd pawb sy’n bresennol yn cael mynediad i lyfrgell o adnoddau ac un o’n Modiwlau e-Ddysgu (yn seiliedig ar gyfathrebu)
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mark Roberts ar mark.roberts@fawtrust.cymru
Manylion
- Dyddiad: 23rd Medi 2021 
- Amser: 6:00pm - 8:00pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 07792 265 764