Partneriaeth Parc Caia
Mae Partneriaeth Parc Caia yn sefydliad elusennol sy’n gweithio ledled Wrecsam ac sydd â ffocws arbennig ar ardal leol Parc Caia. Nod y sefydliad yw cefnogi’r gymuned leol a diddymu unrhyw rwystrau sy’n atal pobl rhag cyrraedd eu llawn botensial. Rydym yn gweithio i roi cyfleoedd newydd i bobl allu dysgu a gwirfoddoli a chael swyddi. Mae’n bleser gennym fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddod ag amrywiaeth eang o gyrsiau i chi sydd wedi eu hariannu gan Ddysgu Oedolion yn y Gymuned.
Mae ein darpariaeth yn cynnwys:
• Cyrsiau wedi eu hachredu i’ch helpu i gael swydd neu eich cynorthwyo i newid gyrfa,
• Cyrsiau creadigol a lles i’r rheiny sydd eisiau dysgu sgìl newydd neu wella hyder a hunan-barch, ac
• Amrywiaeth o gyrsiau blasu a datblygu mewn nifer o alwedigaethau.
Mae’n bleser gennym allu gweithio gyda sefydliadau sy’n cynnwys; Groundwork Gogledd Cymru, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria, Art and Soul Tribe, The Bold Type, The Denbigh Workshop, Making Maestros, Sue Beesley Coaching, a The Little Learning Company i gynnig cyrsiau gwych i chi, a byddem wrth ein boddau’n clywed beth hoffech i ni ei gynnig nesaf.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01978310984
-
Cyfeiriad:
training@caiapark.org
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg