Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Enillwyr Gwobrau
    • Cyfres Podlediad
    • Newyddion a Blogiau
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • Gwybodaeth i Ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
Select Page

Gwobr Sgiliau yn y Gwaith

Rhaglen Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg 2

Agile Nation

Ers iddo gael ei lansio yn 2015, mae Rhaglen Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg wedi helpu’r sawl sy’n cymryd rhan i sicrhau cynnydd cyflog o fwy na £3 miliwn rhyngddynt.

Mae’r rhaglen addysg oedolion 12-wythnos yn darparu ar gyfer menywod o gefndiroedd a diwydiannau amrywiol, gan eu cefnogi i weithio tuag at eu nodau gyrfa tra’n ennill cymwysterau cydnabyddedig drwy’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae sesiynau’n defnyddio technegau hyfforddi i feincnodi man dechrau ar gyfer cyfranogwyr, yna ailedrychir ar eu nodau drwy gydol y cwrs, a chaiff rhai newydd eu gosod. Cafodd y cwrs ei gwblhau gan fwy na 2,700 o fenywod hyd yma.

Dywedodd Rina Evans, uwch bartner cyflenwi Chwarae Teg: “Daw menywod atom o wahanol sectorau, ar wahanol lefelau a chamau yn eu gyrfaoedd, ond unwaith y maent yn dod ynghyd yn y sesiynau grŵp, maen nhw’n sylweddoli bod llawer o’r heriau sy’n wynebu menywod yn y gweithle yr un fath”.

Mae Dyfarniad Lefel 2 Ymgyrraedd at Arwain, cwrs mwyaf poblogaidd Chwarae Teg, yn anelu i gau’r bwlch hwnnw a chynyddu cynrychiolaeth menywod mewn swyddi arweinyddiaeth.

Ychwanegodd Rina: “Mae menywod yn gwneud arweinwyr gwych, ond mae llawer o fenywod sy’n dod atom yn dioddef o syndrom ffugio – maent yn teimlo nad yw’r cymwysterau ganddynt i fod mewn swyddi arwain. Weithiau gall dychwelyd i addysg fel oedolyn a chael cymhwyster arwain i gydnabod hynny help i roi hyder iddynt wthio ymlaen a chyflawni eu nodau.

Gorffennodd Gemma Williams, cynghorydd ecoleg a bioamrywiaeth Dŵr Cymru, y rhaglen yn 2018 a chafodd ddyrchafiad ddwywaith. Dywedodd: “Rwyf wedi cael hyfforddiant dechnegol barhaus ar hyd fy ngyrfa, ond Cenedl Hyblyg 2 oedd y cyfle cyntaf a gefais i weithio ar fy natblygiad personol. Mae wedi agor cynifer o ddrysau i fi. Cyn i mi orffen y cwrs hwn, byddai swyddi’n dod lan a byddwn yn tanbrisio fy hun a pheidio gwneud cais amdanynt. Byddwn yn darbwyllo fy hunan nad oedd y sgiliau na’r profiad cywir gen i, ond fe roddodd hyn yr hyder a’r gallu i fi i gredu ynof fy hun.

“Rwy’n credu’n gryf mewn dysgu gydol oes. Pan ewch o addysg lawn-amser i waith, ac wrth i chi fynd ymlaen yn eich gyrfa, bydd y sgiliau sydd angen i chi eu datblygu yn newid felly bydd bob amser angen i ddal ati i ddysgu.”

Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • gwybodaeth-i-ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in settings.

ALW logo without whitebackground
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy