Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Enillwyr Gwobrau
    • Cyfres Podlediad
    • Newyddion a Blogiau
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • Gwybodaeth i Ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
Select Page

Gwobr Mewn i Waith

Chloe Young

Ddwy flynedd yn ôl, roedd Chloe Young o’r Wyddgrug yn rhy ofnus i adael ei chartref ei hun oherwydd gorbryder ac iselder difrifol ac anhwylder bwyta yr oedd wedi bod yn brwydro yn ei erbyn ers pan oedd yn 17 oed. Cafodd ei hanfon i’r ysbyty ar ôl trio cymryd eu bywyd eu hun, a doedd hi ddim yn gallu gweld ateb i’w phroblemau.

Meddai: “Mae fy mywyd wedi bod fel corwynt. Ar fy ngwaethaf, byddwn yn ei chael hi’n anodd dod allan o’r gwely i fynd â fy merch i’r ysgol. Doedd gen i ddim hyder – doedd gen i ddim byd ar ôl i’w roi.

“ Doeddwn i ddim yn gweld pwrpas siarad am fy iechyd meddwl achos roeddwn i’n teimlo nad oedd unrhyw beth a fyddai’n gallu cael gwared ar fy mhrofiadau.”

Cafodd Chloe ei chyfeirio at raglen WeMindTheGap, cynllun sy’n darparu mentora bywyd, profiad gwaith a mynediad at gyflogaeth, ac fe newidiodd y cynllun ei bywyd.

Dechreuodd raglen hyfforddi WeMindTheGap, gan dreulio’r chwe wythnos nesaf ar leoliadau gwaith, a bellach mae hi’n bwriadu mynd i’r brifysgol i astudio i fod yn nyrs.

Meddai: “Pan ddechreuais fy hyfforddeiaeth, roeddwn i’n teimlo fel bod rhywun wedi aildanio’r golau yn fy mywyd. Cefais gyfleoedd yn ystod y chwe mis hynny a drawsnewidiodd fy mywyd.

“Roeddwn i eisiau bywyd gwell i fi a’m merch. Fe ddeallais yn fuan iawn bod rhaid derbyn y gorffennol er mwyn symud ymlaen.

“Gallwn deimlo’r cyffro’n tyfu gyda phob lle newydd roeddwn i’n gweithio ynddo a gyda phob sgil newydd roeddwn i’n ei dysgu, a hynny ar ôl bod mor swil wrth gerdded i mewn i’m lleoliad gwaith cyntaf.”

Pan raddiodd Chloe, gofynnwyd iddi rannu ei phrofiadau gyda menywod ysbrydoledig eraill ar ei chwrs, noddwyr elusennau, rheolwyr lleoliadau, ffrindiau a theulu.

“Roeddwn i’n ysgwyd, ac yn methu ynganu fy ngeiriau’n iawn wrth i mi ddarllen fy araith i ystafell o tua 200 o bobl. Roeddwn i mor emosiynol, fe ddechreuais i grio – allwn i ddim credu bod gen i’r hyder i’w wneud. Roeddwn i’n gwybod y gallwn ddangos yr hyn oedd yn bosib i’r bobl a oedd yn fy amau, a dwi wedi llwyddo i wneud hynny.

Ar ei phedwerydd lleoliad gwaith, roedd hi’n gweithio i’r gwasanaethau cymdeithasol fel gweithiwr cymorth i’r henoed ac arweiniodd hynny at waith parhaol.

“Dwi wrth fy modd gyda’r gwaith ac mae wedi bod yn newid byd i fi. Mae gan fy merch tua 20 o neiniau a theidiau anrhydeddus, maen nhw wrth eu boddau’n clywed amdani. Fe wnaeth hyn imi sylweddoli fy mod i eisiau gofalu am bobl. Mae fy mos yn dweud fod gen i’r potensial i fod yn uwch reolwr, ond dwi eisiau mynd i’r brifysgol ac astudio nyrsio. Es i draw i weld fy nain yr wythnos diwethaf ac roedd hi’n dweud pa mor iach dwi’n edrych. Dwi’n bwyta’n well, dwi’n cymdeithasu, mae gen i swydd dwi wrth fy modd â hi, mae gen i gar a dwi’n aros am ddyddiad ar gyfer fy mhrawf gyrru.”

Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • gwybodaeth-i-ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in settings.

ALW logo without whitebackground
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy