Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Enillwyr Gwobrau
    • Cyfres Podlediad
    • Newyddion a Blogiau
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • Gwybodaeth i Ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
Select Page

Enillydd Gwobr Mewn i Waith

Daniel Jones

DANIEL JONES, BRIDGEND, 10/08/2021

Roedd Daniel Jones yn wynebu ansicrwydd am ei ragolygon gwaith a diffyg hunanhyder yn ogystal ag anawsterau yn cyfathrebu gyda phobl newydd ar ôl gadael y coleg. Yn benderfynol i wella ei sgiliau, fe wnaeth gwblhau’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd gyda chanlyniadau rhagorol. Oddi yno, cafodd Daneil leoliad gyda Twf Swyddi Cymru.

Dim ond bythefnos ar ôl ei dechrau ei leoliad, sicrhaodd Daniel swydd lawn-amser ac mae ar ei ffordd i adeiladu gyrfa lwyddiannus mewn technoleg gwybodaeth. Dywedodd Daniel: “Fedra i ddim credu pa mor bell yr ydw i wedi dod yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydw i bob amser wedi bod yn angerddol am dechnoleg genedlaethol oherwydd ei fod yn newydd ac ar flaen y gad.”

Wynebodd Daniel anawsterau ar ôl gadael y coleg, ond gwrthododd roi’r gorau i’w uchelgais i ganfod swydd mewn TG. Ychwanegodd: “Daeth yn glir i mi yn gyflym iawn fod angen cryn dipyn yn fwy o brofiad i gael swydd. Roedd dechrau’r cwrs yn anodd. Sylweddolais fod angen i mi wella llawer. Roeddwn yn swil a thawedog iawn pan ddechreuais.

“Fe wnaeth mynd drwy’r cwrs a chwrdd â phobl newydd bob dydd yn wir fy helpu i gynyddu fy hyder a fy mharatoi ar gyfer bywyd ar ôl y coleg gyda hyfforddiant ar bethau fel ysgrifennu CV a pharatoi am gyfweliadau. Rwy’n dal i ddefnyddio llwythi o’r sgiliau hyn hyd heddiw.”

Meddai Daniel: “Roedd yn rhyfedd ac ychydig yn anodd arfer gydag amgylchedd gwaith 9-5 i ddechrau. Diolch byth, roedd gen i ddau gydweithiwr ar y ddesg gymorth a wnaeth fy rhoi ar ben y ffordd ac roeddent yn gefnogol iawn.

“Roeddwn wrth fy modd gyda’r her. Roedd yn rhaid i mi wneud llawer o bethau gwahanol. Fe wnaeth hynny fy ngalluogi i ddiagnosio problemau a’u datrys cyn gynted ag oedd modd.” I Daniel, cynyddodd pethau yn ystod y pandemig.

“Roedd yn rhaid i mi ddod hyd yn oed yn fwy hunan ddibynnol ac annibynnol. Roedd gweddill fy nhîm yn delio gyda straen cael yr holl seilwaith yn ei le i gefnogi gweithio o bell. Gwyddwn fod angen i mi gamu lan i’w helpu felly fe wnes ddechrau codi hyd yn oed mwy o dasgau a chyfrifoldebau.”

Aeth ymlaen: “Roedd yn deimlad gwych i gyrraedd fy nod yn y diwedd o swydd lawn-amser mewn TG. “Fe wnaeth yr holl waith caled dalu ar ei ganfed. Fyddwn i ddim wedi medru ei wneud heb y profiad, hyder a sgiliau pobl a gefais ers gadael y coleg. Pe byddwn yn gallu rhoi darn o gyngor i fi fy hunan pan oeddwn yn iau, byddwn yn dweud nad yw’n rhaid bob amser ruthro i waith lawn-amser. Dyna beth geisiais i wneud ac roedd yn gwneud i mi golli fy ysgogiad oherwydd nad oeddwn yn barod.

“Fe wnaeth ennill y profiad a sgiliau cyn dechrau ar swydd yn wir fy mharatoi ar gyfer llwyddiant a fedra i ddim argymell digon arno i bobl ifanc mewn sefyllfa debyg i fi.

“Cefais amser mor anodd cyn dechrau dysgu. Wyddwn i ddim i ba gyfeiriad yr oedd fy mywyd yn mynd. Mae cael diben a llwybr gyrfa cliriach wedi newid popeth.”

Fe wnaeth mynd drwy’r cwrs a chwrdd â phobl newydd bob dydd yn wir fy helpu i gynyddu fy hyder a fy mharatoi ar gyfer bywyd ar ôl y coleg gyda hyfforddiant ar bethau fel ysgrifennu CV a pharatoi am gyfweliadau. Rwy’n dal i ddefnyddio llwythi o’r sgiliau hyn hyd heddiw
Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • gwybodaeth-i-ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in settings.

ALW logo without whitebackground
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy