Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Enillwyr Gwobrau
    • Cyfres Podlediad
    • Newyddion a Blogiau
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • Gwybodaeth i Ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
Select Page

Gwobr Iechyd a Llesiant

Jamie Evans

Jamie Evans

Oherwydd teimladau o iselder a gorbryder, roedd Jamie Evans yn dueddol o ynysu ei hun oddi wrth eraill, cymaint nes byddai wythnosau’n mynd heibio heb unrhyw gyswllt dynol. Byddai’n defnyddio cyffuriau presgripsiwn i leddfu’r boen.

Dywedodd: “Dechreuais ddioddef gorbryder yn fy arddegau. Roedd gen i broblemau iechyd a oedd yn effeithio arna i bob dydd, a olygai fy mod yn colli’r ysgol, a dyna lle dechreuodd y cyfan.”

Cafodd Jamie ddiagnosis o glefyd Crohn, a daeth ei orbryder yn rhwystr enfawr, gan ei atal rhag gweithio, cymdeithasu a gweld unrhyw un y tu allan i’w gartref.

“Ar fy ngwaethaf, fyddwn i ddim yn codi o’r gwely, ddim yn ’molchi na bwyta. Fyddwn i ddim yn ateb fy ffôn pan oedd fy nheulu’n ffonio a byddwn yn gwneud esgusodion pan fyddai ffrindiau yn fy ngwahodd i allan, felly roion nhw’r gorau iddi yn y diwedd. Roeddwn i wedi bod yn ddi-waith ers 10 mlynedd oherwydd fy ngorbryder, fy iselder a phroblemau iechyd, a doedd gen i ddim ddyheadau na chynlluniau at y dyfodol – dim ond goroesi o ddydd i ddydd oeddwn i.

“Cefais boenladdwyr ar bresgripsiwn, ond dechreuais ddibynnu mwy a mwy arnyn nhw, a’u cymryd nhw’n amlach gan ‘mod i’n teimlo mor anhapus. Yn y pen draw, pan nad oedden nhw’n ddigon, troais at gyffuriau cryfach ac aeth fy mhroblemau o ddrwg i waeth. Fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth camddefnyddio sylweddau neilltuo mentor cymheiriaid i mi.”

Yno, cafodd daflen am gwrs Seicoleg 12 wythnos gydag Addysg Oedolion Cymru, a oedd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag elusen iechyd meddwl New Horizons, a chofrestrodd amdano.

“Ar y diwrnod cyntaf, sefais y tu allan i’r dosbarth am tua 20 munud yn edrych ar y drws, yn arswydo cyn mynd i mewn. Roeddwn i’n swp sâl yn poeni, a bu bron i mi fynd adref. Ond cliciodd rhywbeth y tu mewn imi, a gorfodais fy hun i fynd i’r dosbarth.

“Roedd fy nosbarth cyntaf yn anhygoel. Roeddwn i’n teimlo gartrefol ar unwaith, ac yn edrych ymlaen at y dosbarth nesaf – roeddwn i’n ysu i ddysgu mwy.”

Pan oedd y cwrs yn dod i ben, doedd Jamie ddim yn teimlo’n barod i roi’r gorau iddi ac fe gofrestrodd ar ddosbarth Troseddeg gyda’r un tiwtor, er bod angen teithio 40 munud i’r cwrs. Ymhen ychydig wythnosau, roedd ar drydydd cwrs magu hyder, y bu’n dilyn tri chwrs yr wythnos, cyn cofrestru yn y pen draw i wneud cwrs Mynediad yn y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd.

“Fe wnes i gwrdd â chymaint o bobl newydd a dechreuodd fy ngorbryder ddiflannu’n raddol. Roeddwn i’n mwynhau fy hun ac roedd gen i deimlad cadarnhaol braf y tu mewn i mi. Roedd gen i bwrpas mewn bywyd.”

“Roeddwn i’n arfer ofni’r anhysbys, ond bellach yn y dosbarth, rwy’n cwrdd â phobl newydd ac yn gwybod bod pawb yn mynd drwy eu pethau eu hunain ac yn delio â phroblemau eu hunain, a does neb yn fy marnu. Doedd dim byd yn fy mhoeni mewn gwirionedd yn yr ystafell ddosbarth, a dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i wneud rhywbeth sy’n rhoi cymaint o bleser i mi.”

“Dw i wedi elwa cymaint ar ddysgu, y tu hwnt i bob disgwyl. Nid dim ond gwybodaeth am bwnc o’r dosbarthiadau, ond sgiliau gwerthfawr, hunan-gred, gwydnwch, cyfeillgarwch ac iechyd meddwl gwell”.

Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • gwybodaeth-i-ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in settings.

ALW logo without whitebackground
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy