Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Enillwyr Gwobrau
    • Cyfres Podlediad
    • Newyddion a Blogiau
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • Gwybodaeth i Ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
Select Page

Cychwyn Arni – Enillydd Gwobr Dechreuwyr Cymraeg

Josh Osborne

Inspire Awards, Joshua Osbourne, Swansea, 05/08/2021

Pan benderfynodd Josh Osbourne symud i Gymru i fyw gyda’i bartner sy’n siarad Cymraeg, roedd yn bendant ei fod eisiau dysgu’r iaith a dod yn hyderus yn ei siarad.

Felly, ym mis Mai 2020 pan oedd yn gorffen ei radd Meistr ac yn dal i fyw yn Lloegr, dechreuodd Josh ar gwrs arbrofol a gynhaliwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ar ôl gorffen y cwrs, oedd yn cyfuno dysgu gyda thiwtor gyda hunan-astudiaeth ar-lein, gwyddai Joshua ei fod eisiau dal ati i ddysgu fel y gallai gyflawni ei freuddwyd o ddefnyddio’r iaith yn ei fywyd bob dydd. Felly cofrestrodd am gwrs dwys yn y Gymraeg gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, a gaiff ei gynnal gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Genedlaethol.

Dywedodd: “Mae fy mam yn Almaenes felly cefais fy magu  mewn cartref dwyieithog. Doedd gen i erioed lawer o ddiddordeb mewn ieithoedd pan oeddwn yn yr ysgol ond roedd yn ymddangos yn beth naturiol y byddwn yn dysgu Cymraeg pan benderfynais symud i Gymru i fyw gyda fy mhartner a’u teulu.

“Mae fy mhartner yn rhugl yn y Gymraeg a theimlwn y byddai dysgu Cymraeg yn ein helpu i ddod yn nes at ein gilydd ac agor ffyrdd newydd o gyfathrebu. Fel pawb arall, rwyf wedi cael y flwyddyn ddiwethaf yn anhygoel o anodd. Roeddwn yn teimlo’n ynysig ac unig ac fe effeithiodd ar fy iechyd meddwl. Fe wnaeth dysgu Cymraeg wirioneddol fy helpu i drin fy iechyd meddwl.

“Penderfynais ddechrau ar y cwrs dwys a gynlluniwyd i helpu pobl ddod yn rhugl mewn dwy flynedd. Mae’n ymrwymiad eitha mawr o ran amser ar naw awr yr wythnos felly mae’r rhan fwyaf o bobl ar y cwrs wedi ymddeol – fi oedd yr ieuengaf ar fy nghwrs.”

Roedd British Isles DBT Training yn Wreccsam, cyflogwr Josh, yn cefnogi ei ddymuniad i ddysgu Cymraeg, gan roi amser iddo yn ystod yr wythnos waith i astudio ac ymarfer.

Dywedodd Josh, “Rwy’n awr ar fin dechrau fy nghwrs chwech wythnos nesaf, a gaiff ei gynnal am bedair awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’n hurt meddwl na fedrwn hyd yn oed ddweud ‘Dw i’n hoffi coffi’ yr adeg hon y llynedd, ond rydw i nawr o fewn misoedd o fedru cynnal sgwrs go iawn yn y Gymraeg.

“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried dysgu iaith yw mynd amdani. Ni fydd yn edifar gennych ac mae llwythi o fuddion. Caiff y cyrsiau eu cynllunio i fod yn hygyrch, a gallwch ddysgu yn gyflym.

“Rwyf wedi cael pob agwedd o fy nghyrsiau Cymraeg yn werth chweil iawn – mae wedi fy helpu drwy bandemig, wedi dod â fi yn nes at fy mhartner ac wedi fy ngalluogi i gynefino â diwylliant Cymru.”

 

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried dysgu iaith yw mynd amdani. Ni fydd yn edifar gennych ac mae llwythi o fuddion
Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • gwybodaeth-i-ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in settings.

ALW logo without whitebackground
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy