Wisdom Circles
Crëwyd WISDOM CIRCLES gan Dr Sangeet Bhullar er mwyn helpu teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau cymunedol i ddarganfod sut y gall dealltwriaeth ac arfer wedi’i seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar eu cynorthwyo nhw i ffynnu yn eu bywydau bob dydd. Bu gan Sangeet arfer ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod personol ers dros 20 mlynedd, y bydd yn manteisio arno yn y gwaith hwn. Mae hi wedi darparu’r rhaglenni hyn sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer addysgwyr, pobl ifanc a grwpiau cymunedol ac elusennau trwy gyfrwng Wisdom Circles, yn ogystal â’i sefydliad arall, WISE KIDS. Mae WISE KIDS yn gweithio gyda phobl ifanc, teuluoedd, addysgwyr, gweithwyr proffesiynol eraill a grwpiau cymunedol yn y DU ac mewn gwledydd tramor, i ddatblygu eu llythrennedd a’u cymhwysedd digidol, eu hymdeimlad o weithredu a lles, fel y gallant ffynnu ar-lein ac all-lein. Mae Sangeet yn aelod o nifer o fyrddau cynghori llywodraethol ac anllywodraethol hefyd yn y DU, ac mae ganddi gyfrif ar Twitter, sef @sangeet.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 07540707258
-
Cyfeiriad:
40
Ni ddarganfuwyd digwyddiad tebyg