PRP Training Ltd
Mae PRP Training yn ddarparwr hyfforddiant sy’n arbenigo mewn cyflwyno Prentisiaethau yn y Gwaith ledled De a Gorllewin Cymru a Hyfforddiant Galwedigaethol yn ein Academi yn Sir Benfro. Mae PRP wedi’i achredu gan City and Guilds, Edexcel a’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).
Os ydych chi eisoes mewn gwaith, yn ddi-waith, yn yr ysgol neu’n gadael neu’n ansicr pa lwybr gyrfa i’w ddilyn, mae rhywbeth at ddant pawb yn PRP Training.
Beth bynnag y penderfynwch, mae ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol yn ffordd wych o wella’ch CV, datblygu sgiliau newydd, eich helpu i symud ymlaen gyda’ch gyrfa neu gynyddu eich siawns o ddod o hyd i swydd.
Mae PRP Training yn rhan o Gonsortiwm B-wbl (Consortiwm Academi Sgiliau Cymru (De Orllewin) gynt) y mae ei aelodau’n cynnwys grŵp o 10 darparwr hyfforddiant yn y sector cyhoeddus a phreifat.
-
Gwybodaeth Cyswllt
- Ffôn: 01646 623780
-
Cyfeiriad:
13 Melville Street, Pembroke Dock, Pembrokeshire SA72 6XS